Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru | Rethinking food in Wales

 

RFW 29

 

Ymateb gan : Sustain

Evidence from : Sustain

 

Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Cynnal: cynghrair Bwyd a Ffermio Gwell. Mae Cynnal yn eirioli polisïau ac arferion bwyd ac amaethyddiaeth sydd yn gwella iechyd a llesiant pobl ac anifeiliaid, yn gwella’r amgylchedd gwaith a byw, yn cyfoethogi cymdeithas a diwylliant ac yn hybu tegwch. Rydym yn cynrychioli tua 100 o sefydliadau cenedlaethol budd cyhoeddus sydd yn gweithio ar lefel ryngwladol, genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae ein prosiectau a’n hymgyrchoedd dylanwadol yn cynnwys:

·                     Ymgyrch Bwyd Plant: sydd yn ceisio gwella iechyd a llesiant pobl ifanc trwy: Addysg bwyd da ym mhob ysgol; cyfeirio sylw plant oddi wrth farchnata bwyd sothach; labeli bwyd clir. Fe wnaethom ddechrau ac arwain yr ymgyrch llwyddiannus am ardoll diodydd melys.

·                     Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy: rhwydwaith o bartneriaethau bwyd lleol yn gwella systemau bwyd lleol trwy ddod â llywodraeth leol, grwpiau cymunedol ag ymagwedd gydgysylltiedig tuag at faterion bwyd yn lleol ynghyd. Caiff ei redeg yn genedlaethol gan Cynnal, Cymdeithas y Pridd a Materion Bwyd ac mae’n cynnwys dros 30 o ddinasoedd ar draws y DU. Un o’n hymgyrchoedd oedd cynyddu pysgod cynaliadwy sy’n cael eu prynu gan arlwywyr, gyda Bwyd Caerdydd yn helpu GIG Cymru i ymrwymo i ddefnyddio pysgod cynaliadwy yn unig, a chydag addewidion eraill i’n hymgyrch, mae 20% o’r pysgod sy’n cael eu bwyta y tu allan i’r cartref yng Nghymru yn gynaliadwy.

·                     Y Tu Hwnt i’r Banc Bwyd: gweithio i leddfu tlodi bwyd trwy alw ar lywodraethau ar draws y pedair gwlad i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol fel tâl isel a bylchau yn y rhwyd ddiogelwch, yn ogystal â gwella a diogelu rhaglenni maeth a ariennir yn gyhoeddus. Rydym yn lansio rhaglen ar draws y DU i gefnogi cynghreiriau tlodi bwyd lleol, a byddwn yn gweithio gyda grwpiau ar draws Cymru.

·                     Trwy ein prosiectau a’n rhwydweithiau amrywiol rydym yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau a mentrau yng Nghymru, yn cynnwys poptai, cydweithfeydd bwyd, ac yn helpu i wella mynediad plant i ddŵr.

Nid yw’r cyflwyniad hwn yn cynrychioli safbwyntiau manwl holl aelod-sefydliadau Cynnal ac rydym yn cael ar ddeall bod rhai wedi rhoi eu cyflwyniadau eu hunain i mewn.

1.    Ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru

Rydym yn cefnogi’r pedair thema a awgrymwyd, ac yn credu bod y rhain yn sylfaen da ar gyfer y weledigaeth. P’un ai wedi eu diffinio’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, neu trwy ddylanwad Llywodraeth Cymru ar bolisi ar draws y DU – rydym yn credu bod yn rhaid derbyn y cyfrifoldeb i sicrhau bod bwyd da (h.y. diogel, olrheiniadwy, iach, moesol ac wedi ei gynhyrchu’n gynaliadwy) mor fforddiadwy, hygyrch ac wedi ei farchnata mor dda â bwyd gwael (h.y. anniogel, wedi ei olrhain yn wael, afiach, anfoesol ac wedi ei gynhyrchu’n anghynaliadwy). Dim ond pan fydd y gosodiad hwn yn cael ei wneud yn ganolog i wneud polisïau y byddwn yn gweld system bwyd a ffermio mwy cynaliadwy yn dod yn realaeth.

 

Y tu hwnt i’r materion hanfodol sydd wedi eu cynnwys yn yr alwad am dystiolaeth, yn ymwneud â deiet iach a system fwyd sydd yn gadarn yn amgylcheddol ac yn economaidd, mae rhai pwyntiau yr hoffem eu gweld yn cael eu cydnabod na sonnir amdanynt ar hyn o bryd, neu y gellid ehangu arnynt pan fydd y weledigaeth yn cael ei datblygu:

 

1.1   Sicrhau bod safonau diogelwch bwyd ar gyfer bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a bwyd sy’n cael ei fewnforio yn cael eu cynnal, a bod lefelau staff sydd yn cynnal yr arolygiadau ac sy’n gorfodi’r safonau sydd yn deillio ohonynt yn cael eu cynnal neu eu cynyddu yn arbennig yn yr amgylchiadau newidiol yn dilyn Brexit.

1.2   yn ogystal, gyda Brexit mae angen defnyddio pa bwerau bynnag sydd gennych i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i sicrhau egwyddorion cyfreithiol sydd yn ategu amddiffyniad amgylcheddol da, fel yr egwyddor ragofalus, yr egwyddor y dylid cymryd camau ataliol, y dylid unioni niwed amgylcheddol yn y ffynhonnell ac y dylai’r llygrwr dalu; hefyd bod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol.

1.3   sicrhau bod cymorth dyledus yn cael ei roi i fusnesau bwyd, ffermio a physgota, p’un ai trwy daliadau neu hyfforddiant, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu bodloni’r safonau uchel (yn arbennig llesiant amgylcheddol ac anifeiliaid) fydd o gymorth. Dylai hyn hefyd gefnogi amrywiaeth o raddfeydd o fusnesau bwyd, gyda llawer o ffermydd llai e.e. ffermydd mynydd Cymru, a mentrau bwyd mewn perygl. Mae ein cynnig ôl-Brexit ar gyfer polisi ffermio newydd wedi ei nodi yma[i] ac ar gyfer polisi pysgodfeydd newydd yma[ii].  Byddem yn awyddus i archwilio’r ffordd y byddai hyn yn gweithio yn benodol yng Nghymru.

1.4   dylid ymestyn y pwynt olaf ar greu cyrchfan i’r rheiny sydd yn hoffi bwyd i gynnwys sefydlu hoffter am Fwyd Da ymysg pobl Cymru. Dylai hyn gynnwys addysg a sgiliau fydd o gymorth, er enghraifft, gwella deiet, lleihau gwastraff bwyd ac agweddau defnyddwyr tuag at fwyd ac ategu diwylliant bwyd da. Byddai hyn yn cael ei wella gan fwy o rôl i lywodraethu bwyd ar lefel leol, er mwyn cynyddu ymrwymiad a chyfrifoldeb rhanddeiliaid lleol yn diffinio eu system fwyd. Mae Bwyd Caerdydd yn enghraifft lwyddiannus o hyn.

1.5   ar bwynt cysylltiedig, sicrhau cydnabod pwysigrwydd, a chefnogaeth ar gyfer, mentrau bwyd cymunedol, o ffermydd dinesig, poptai Bara Go Iawn annibynnol lleol, cydweithfeydd, ceginau, gerddi a siopau cymunedol – lle mae bwyd yn sylfaen y gymuned leol yn darparu cydlyniant yn ogystal â buddion annog diwylliant bwyd da a nodwyd yn 1.3.

1.6   gan ddatblygu cynnydd Cymru yn monitro ansicrwydd bwyd, gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo mesur ansicrwydd bwyd aelwydydd ar draws y DU trwy fabwysiadu’r Raddfa Profiad o Ansicrwydd Bwyd (FEIS) ac annog Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth â gweinyddiaethau datganoledig i fabwysiadu un system barhaus.[iii]

 

2.    Sut i gyflawni’r weledigaeth hon

O’r gosodiad hwn daw nifer o feysydd gwneud polisïau y mae angen eu gwella, rhai ohonynt wedi eu nodi isod. Rydym yn gwerthfawrogi y gall rhywfaint o hyn fod y tu hwnt i bwerau presennol Llywodraeth Cymru, ond gall fod cyfleoedd i ddefnyddio pa bynnag bwerau sydd gennych i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU.

 

2.1  Adolygu trethiant, i hybu bwyd mwy cynaliadwy.  Mae Ardoll y Diwydiant Diodydd Meddal a’r cynnig cychwynnol i glustnodi hyn ar gyfer iechyd plant yn gam cyntaf sy’n cael ei groesawu, ac rydym yn annog archwilio’r ffordd y gellir defnyddio offer ariannol i gymell bwyd a ffermio da ymhellach, naill ai trwy annog gwella arferion neu trwy ailddosbarthu ardollau a godwyd o arferion gwael.

2.2  Caffaeliad cyhoeddus: dylid defnyddio arian cyhoeddus i sicrhau’r safonau uchaf. Cafwyd cynnydd mewn blynyddoedd diweddar o ran creu safonau, sydd bellach yn weithredol ar draws llawer o’r sector cyhoeddus, ond mae rhai meysydd yn dal wedi’u heithrio e.e. academïau a sefydlwyd cyn Mehefin 2014, sydd yn cynnwys bron hanner yr ysgolion uwchradd. Nid yw’r safonau a fabwysiadwyd yn barod hyd yn oed yn mynd yn ddigon pell, er enghraifft nid oes llawer o arweiniad ynghylch annog bwyta llai o gig (ond cig gwell) - gellir dadlau mai dyma’r agwedd o gyfraniad y DU tuag at newid hinsawdd sydd wedi ei esgeuluso fwyaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw safonau presennol yn cael eu monitro’n effeithiol ac nid oes unrhyw gosbau os cânt eu torri.

2.3  Polisïau cynllunio y mae angen eu hadolygu er mwyn sicrhau bod gan lywodraeth leol o leiaf mwy o bwerau i gau siopau bwyd brys mewn ardaloedd lle mae gormod ohonynt, ac i roi blaenoriaeth i ddarparu bwyd iach, fforddiadwy, fel marchnadoedd stryd lleol.

2.4  Gallai newidiadau i bolisïau ffermio a pholisïau ehangach sydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ffermio gynnwys symud oddi wrth yr hen gynllun taliadau PAC uniongyrchol i gyflwyno cynllun Cymorth Rheoli Tir newydd lle mae ffermwyr a rheolwyr tir yn cael cymorth yn gyfnewid am gyflwyno ystod o nwyddau cyhoeddus yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, cadwraeth neu ganlyniadau i’r economi wledig. Dylai unrhyw raglen hefyd helpu i gefnogi mentrau cynaliadwy yn cynnwys y rheiny sydd yn newydd i ffermio, ffermydd llai ac amrywiol, agro-goedwigaeth, systemau ffermio yn seiliedig ar bori, sectorau organig a hanfodol fel ffrwythau a llysiau. Dylai hyfforddiant a chyngor newydd sydd yn canolbwyntio ar y ffermwr sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r offer sydd ei angen arnynt ar gyfer heriau’r dyfodol. Gyda hyn, byddai’n hanfodol mabwysiadu mesurau ehangach ar draws y llywodraeth, fel ymestyn pwerau Dyfarnwr y Côd Groseriaeth i sicrhau arferion masnachu teg o bob archfarchnad a chyfryngwr, gan gadw safonau uchel mewn cytundebau masnach, a gwneud cynnydd ym mhryniant bwyd lleol a chynaliadwy ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai yn ofynnol.

 

 

 

 



[i] Beyond 2020 - New farm policy. May 2017. Sustain https://www.sustainweb.org/publications/beyond_2020_new_farm_policy/

[ii] What a Sustainable Fisheries Bill could look like. May 217. Sustainhttps://www.sustainweb.org/resources/files/other_docs/Sustainable_Fisheries_Policy.pdf

[iii] Time to Count the Hungry: the case for a standard UK measure of household food insecurity. April 2016. Sustain, Oxfam, Food Foundation, Oxford University and the Food Research Collaboration. https://www.sustainweb.org/publications/time_to_count_the_hungry/